RHAN 4PWERAU YMCHWILIO ACC
PENNOD 3CYFYNGIADAU AR BWERAU PENNOD 2
99Amddiffyniad ar gyfer cofnodion personol
(1)
Ni chaiff hysbysiad gwybodaeth ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu na chyflwyno cofnodion personol na gwybodaeth sydd wedi ei chynnwys mewn cofnodion personol.
(2)
Ond caiff hysbysiad gwybodaeth ei gwneud yn ofynnol i berson—
(a)
cyflwyno dogfen (neu gopi o ddogfen) sy’n gofnod personol, gan hepgor yr wybodaeth sydd (naill ai ar ei phen ei hun neu ynghyd â gwybodaeth arall) yn gwneud y ddogfen yn gofnod personol;
(b)
darparu gwybodaeth sydd wedi ei chynnwys mewn dogfen sy’n gofnod personol, ac eithrio’r wybodaeth sydd (naill ai ar ei phen ei hun neu ynghyd â gwybodaeth arall) yn gwneud y ddogfen yn gofnod personol.
(3)
Ystyr “cofnodion personol” yw dogfennau a chofnodion eraill sy’n ymwneud ag unigolyn (“P”) (boed fyw neu farw) y gellir adnabod pwy ydyw o’r cofnodion hynny ac sy’n ymwneud ag—
(a)
iechyd corfforol neu iechyd meddwl P,
(b)
cwnsela neu gymorth ysbrydol a roddwyd neu sydd i’w roi i P, neu
(c)
cwnsela neu gymorth a roddwyd neu sydd i’w roi i P mewn perthynas â lles personol P gan berson sydd—
(i)
oherwydd swydd neu alwedigaeth, â chyfrifoldebau o ran lles personol P, neu
(ii)
oherwydd gorchymyn llys, â chyfrifoldebau o ran goruchwylio P.