Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

96Cyflwyno copïau o ddogfennauLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Oni bai bod hysbysiad gwybodaeth yn ei gwneud yn ofynnol i berson gyflwyno dogfen wreiddiol, caiff y person gydymffurfio â’r hysbysiad drwy gyflwyno copi o’r ddogfen.

(2)Mae is-adran (1) yn ddarostyngedig i unrhyw amodau neu eithriadau a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(3)Pan fo person yn cydymffurfio â hysbysiad drwy gyflwyno copi o’r ddogfen, caiff ACC, wedi hynny, ei gwneud yn ofynnol i’r person gyflwyno’r ddogfen wreiddiol—

(a)o fewn unrhyw gyfnod, a

(b)mewn unrhyw fodd,

a bennir gan ACC.

(4)Ond nid yw’n ofynnol i berson gyflwyno’r ddogfen wreiddiol os yw ACC yn gwneud cais dros 6 mis ar ôl y diwrnod y cyflwynwyd y copi o’r ddogfen.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 96 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 96 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)