RHAN 4PWERAU YMCHWILIO ACC
PENNOD 2PWERAU I WNEUD GWYBODAETH A DOGFENNAU YN OFYNNOL
96Cyflwyno copïau o ddogfennau
(1)
Oni bai bod hysbysiad gwybodaeth yn ei gwneud yn ofynnol i berson gyflwyno dogfen wreiddiol, caiff y person gydymffurfio â’r hysbysiad drwy gyflwyno copi o’r ddogfen.
(2)
Mae is-adran (1) yn ddarostyngedig i unrhyw amodau neu eithriadau a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
(3)
Pan fo person yn cydymffurfio â hysbysiad drwy gyflwyno copi o’r ddogfen, caiff ACC, wedi hynny, ei gwneud yn ofynnol i’r person gyflwyno’r ddogfen wreiddiol—
(a)
o fewn unrhyw gyfnod, a
(b)
mewn unrhyw fodd,
a bennir gan ACC.
(4)
Ond nid yw’n ofynnol i berson gyflwyno’r ddogfen wreiddiol os yw ACC yn gwneud cais dros 6 mis ar ôl y diwrnod y cyflwynwyd y copi o’r ddogfen.