RHAN 4PWERAU YMCHWILIO ACC

PENNOD 2PWERAU I WNEUD GWYBODAETH A DOGFENNAU YN OFYNNOL

95Cydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth

(1)

Rhaid i berson y dyroddir hysbysiad gwybodaeth iddo gydymffurfio â’r hysbysiad—

(a)

o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad F1(neu unrhyw gyfnod hwy y bydd ACC a’r person yn cytuno arno), a

(b)

mewn unrhyw fodd a bennir neu a ddisgrifir yn yr hysbysiad.

(2)

Ond os yw’r person wedi gofyn am adolygu’r hysbysiad neu ofyniad ynddo, neu wedi apelio yn erbyn y naill neu’r llall, mae is-adran (1)(a) yn peidio â bod yn gymwys i’r hysbysiad neu’r gofyniad.

(3)

Pan fo hysbysiad gwybodaeth yn ei gwneud yn ofynnol i berson gyflwyno dogfen, rhaid ei chyflwyno—

(a)

mewn lle y mae’r person ac ACC yn cytuno arno, neu

(b)

mewn lle a bennir gan ACC.

(4)

Ni chaiff ACC bennu lle a ddefnyddir fel annedd yn unig at ddiben is-adran (3)(b).

(5)

Nid yw cyflwyno dogfen yn unol â hysbysiad gwybodaeth i’w ystyried fel torri unrhyw hawlrwym a hawlir ar y ddogfen.