Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

94Terfyn amser ar gyfer dyroddi hysbysiad gwybodaeth a gymeradwywyd gan dribiwnlysLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

Pan fo’r tribiwnlys wedi cymeradwyo dyroddi hysbysiad gwybodaeth rhaid i ACC ddyroddi’r hysbysiad—

(a)yn ddim hwyrach na 3 mis ar ôl y diwrnod y rhoddwyd cymeradwyaeth y tribiwnlys, neu

(b)o fewn unrhyw gyfnod byrrach a bennir gan y tribiwnlys wrth roi’r gymeradwyaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 94 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 94 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)