RHAN 4PWERAU YMCHWILIO ACC
PENNOD 2PWERAU I WNEUD GWYBODAETH A DOGFENNAU YN OFYNNOL
93Pŵer i gael manylion cyswllt dyledwyr
(1)
Ni chaiff ACC ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad cyswllt dyledwr”) sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson (“y trydydd parti”) ddarparu manylion cyswllt person arall (“y dyledwr”) oni fo amodau 1 i 5 wedi eu bodloni.
(2)
Amod 1 yw bod swm ar ffurf—
(a)
treth ddatganoledig,
(b)
llog ar dreth ddatganoledig,
(c)
cosb sy’n ymwneud â threth ddatganoledig, F1...
(d)
llog ar gosb sy’n ymwneud â threth ddatganoledig,
F2(e)
taliad mewn cysylltiad â chredyd treth, neu
(f)
llog ar daliad mewn cysylltiad â chredyd treth,
yn daladwy gan y dyledwr i ACC o dan ddeddfiad neu setliad contract.
(3)
Amod 2 yw bod angen manylion cyswllt y dyledwr ar ACC at ddiben casglu’r swm hwnnw.
(4)
Amod 3 yw ei bod yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol i’r trydydd parti ddarparu’r manylion.
(5)
Amod 4 yw—
(a)
bod y trydydd parti yn gorff corfforaethol neu’n gymdeithas anghorfforedig, neu
(b)
bod gan ACC sail dros gredu bod y trydydd parti wedi cael y manylion yng nghwrs rhedeg busnes.
(6)
Amod 5 yw nad oes unrhyw beth yn adrannau 97 i 102 yn rhwystro ACC rhag ei gwneud yn ofynnol i’r trydydd parti ddarparu’r manylion.
(7)
Ond ni chaiff ACC ddyroddi hysbysiad cyswllt dyledwr—
(a)
os yw’r trydydd parti yn elusen ac y daeth y manylion i’w law yng nghwrs darparu gwasanaethau di-dâl, neu
(b)
os nad yw’r trydydd parti yn elusen ond y daeth y manylion i’w law yng nghwrs darparu gwasanaethau ar ran elusen sy’n ddi-dâl i’r sawl sy’n derbyn y gwasanaeth.
(8)
Yn yr adran hon, ystyr “manylion cyswllt”, mewn perthynas â pherson, yw cyfeiriad y person ac unrhyw wybodaeth arall ynghylch sut y gellir cysylltu â’r person.