RHAN 4PWERAU YMCHWILIO ACC

PENNOD 2PWERAU I WNEUD GWYBODAETH A DOGFENNAU YN OFYNNOL

92Pŵer i gael gwybodaeth er mwyn gallu cadarnhau pwy yw person

(1)

Ni chaiff ACC ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad adnabod”) sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth berthnasol am berson arall (“y trethdalwr”) oni fo’r tribiwnlys wedi cymeradwyo dyroddi’r hysbysiad.

(2)

Caniateir gwneud cais am gymeradwyaeth heb hysbysiad.

(3)

Ni chaiff y tribiwnlys gymeradwyo dyroddi’r hysbysiad adnabod oni fo’n fodlon bod amodau 1 i 6 wedi eu bodloni.

(4)

Amod 1 yw bod angen yr wybodaeth ar ACC at ddiben gwirio sefyllfa dreth y trethdalwr.

(5)

Amod 2 yw ei bod yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu’r wybodaeth berthnasol.

(6)

Amod 3 yw—

(a)

nad yw ACC yn gwybod pwy yw’r trethdalwr, ond

(b)

bod gan ACC wybodaeth y gellir canfod pwy yw’r trethdalwr ohoni.

(7)

Amod 4 yw bod gan ACC sail dros gredu—

(a)

y bydd y person yn gallu canfod pwy yw’r trethdalwr o’r wybodaeth sydd gan ACC, a

(b)

bod y person wedi cael gwybodaeth berthnasol am y trethdalwr yng nghwrs rhedeg busnes.

(8)

Amod 5 yw na ellir canfod yn rhwydd pwy yw’r trethdalwr o’r wybodaeth sydd gan ACC drwy ddulliau eraill.

(9)

Amod 6 yw nad oes unrhyw beth yn adrannau 97 i 102 yn rhwystro ACC rhag ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu’r wybodaeth berthnasol.

(10)

Yn yr adran hon, ystyr “gwybodaeth berthnasol” yw pob un neu unrhyw un o’r canlynol⁠—

(a)

enw,

(b)

cyfeiriad hysbys olaf, ac

(c)

dyddiad geni (yn achos unigolyn).

(11)

Mae’r adran hon hefyd yn gymwys at ddiben gwirio sefyllfa dreth dosbarth o bersonau (ac mae cyfeiriadau at y trethdalwr i’w darllen yn unol â hynny).