92Pŵer i gael gwybodaeth er mwyn gallu cadarnhau pwy yw personLL+C
(1)Ni chaiff ACC ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad adnabod”) sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth berthnasol am berson arall (“y trethdalwr”) oni fo’r tribiwnlys wedi cymeradwyo dyroddi’r hysbysiad.
(2)Caniateir gwneud cais am gymeradwyaeth heb hysbysiad.
(3)Ni chaiff y tribiwnlys gymeradwyo dyroddi’r hysbysiad adnabod oni fo’n fodlon bod amodau 1 i 6 wedi eu bodloni.
(4)Amod 1 yw bod angen yr wybodaeth ar ACC at ddiben gwirio sefyllfa dreth y trethdalwr.
(5)Amod 2 yw ei bod yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu’r wybodaeth berthnasol.
(6)Amod 3 yw—
(a)nad yw ACC yn gwybod pwy yw’r trethdalwr, ond
(b)bod gan ACC wybodaeth y gellir canfod pwy yw’r trethdalwr ohoni.
(7)Amod 4 yw bod gan ACC sail dros gredu—
(a)y bydd y person yn gallu canfod pwy yw’r trethdalwr o’r wybodaeth sydd gan ACC, a
(b)bod y person wedi cael gwybodaeth berthnasol am y trethdalwr yng nghwrs rhedeg busnes.
(8)Amod 5 yw na ellir canfod yn rhwydd pwy yw’r trethdalwr o’r wybodaeth sydd gan ACC drwy ddulliau eraill.
(9)Amod 6 yw nad oes unrhyw beth yn adrannau 97 i 102 yn rhwystro ACC rhag ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu’r wybodaeth berthnasol.
(10)Yn yr adran hon, ystyr “gwybodaeth berthnasol” yw pob un neu unrhyw un o’r canlynol—
(a)enw,
(b)cyfeiriad hysbys olaf, ac
(c)dyddiad geni (yn achos unigolyn).
(11)Mae’r adran hon hefyd yn gymwys at ddiben gwirio sefyllfa dreth dosbarth o bersonau (ac mae cyfeiriadau at y trethdalwr i’w darllen yn unol â hynny).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 92 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 92 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)