91Gwneud gwybodaeth a dogfennau yn ymwneud â phartneriaeth yn ofynnolLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo busnes yn cael ei redeg gan ddau neu ragor o bersonau mewn partneriaeth.
(2)Pan ddyroddir hysbysiad trydydd parti i rywun heblaw un o’r partneriaid at ddiben gwirio sefyllfa dreth mwy nag un o’r partneriaid (yn y rhinwedd honno)—
(a)mae adran 87(3) i’w thrin fel pe bai’n ei gwneud yn ofynnol i ACC—
(i)datgan y diben hwnnw,
(ii)enwi’r trethdalwr drwy roi enw yr adwaenir y bartneriaeth wrtho neu y mae wedi ei gofrestru oddi tano at unrhyw ddiben, a
(iii)dyroddi copi o’r hysbysiad i un o’r partneriaid o leiaf,
(b)mae adran 87(4) i’w thrin fel pe bai’n caniatáu i’r tribiwnlys ddatgymhwyso unrhyw un neu bob un o’r gofynion a grybwyllir ym mharagraff (a) o’r is-adran hon, ac
(c)mae’r cyfeiriadau at y trethdalwr yn adrannau 87(2)(a) ac 88(3)(d) yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at un o’r partneriaid o leiaf.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1A. 91 cymhwyswyd (gydag addasiadau) (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 7 para. 43(6); O.S. 2018/34, ergl. 3
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 91 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 91 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)