RHAN 2AWDURDOD CYLLID CYMRU

Pwyllgorau a staff

9Prif weithredwr ac aelodau staff eraill

(1)

Bydd prif weithredwr i ACC.

(2)

Mae’r prif weithredwr yn atebol am (ymysg pethau eraill) sicrhau bod swyddogaethau ACC yn cael eu cyflawni yn effeithlon ac yn effeithiol.

(3)

Mae’r person cyntaf a gyflogir fel prif weithredwr i’w benodi gan Weinidogion Cymru ar unrhyw delerau a bennir ganddynt.

(4)

Mae pob prif weithredwr dilynol i’w benodi gan aelodau anweithredol ACC ar unrhyw delerau a bennir ganddynt gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

(5)

Caiff ACC benodi aelodau staff eraill ar unrhyw delerau a bennir gan ACC gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

(6)

Mae gwasanaeth fel prif weithredwr ACC neu fel unrhyw aelod arall o staff ACC yn wasanaeth yng ngwasanaeth sifil y Wladwriaeth.