Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

9Prif weithredwr ac aelodau staff eraillLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Bydd prif weithredwr i ACC.

(2)Mae’r prif weithredwr yn atebol am (ymysg pethau eraill) sicrhau bod swyddogaethau ACC yn cael eu cyflawni yn effeithlon ac yn effeithiol.

(3)Mae’r person cyntaf a gyflogir fel prif weithredwr i’w benodi gan Weinidogion Cymru ar unrhyw delerau a bennir ganddynt.

(4)Mae pob prif weithredwr dilynol i’w benodi gan aelodau anweithredol ACC ar unrhyw delerau a bennir ganddynt gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

(5)Caiff ACC benodi aelodau staff eraill ar unrhyw delerau a bennir gan ACC gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

(6)Mae gwasanaeth fel prif weithredwr ACC neu fel unrhyw aelod arall o staff ACC yn wasanaeth yng ngwasanaeth sifil y Wladwriaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 9 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2