RHAN 4PWERAU YMCHWILIO ACC

PENNOD 2PWERAU I WNEUD GWYBODAETH A DOGFENNAU YN OFYNNOL

89Pŵer i wneud gwybodaeth a dogfennau yn ofynnol am bersonau na wyddys pwy ydynt

1

Caiff ACC ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad trydydd parti anhysbys”) sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson (“y derbynnydd”) ddarparu gwybodaeth neu gyflwyno dogfen—

a

os oes angen yr wybodaeth neu’r ddogfen ar ACC at ddiben gwirio sefyllfa dreth⁠—

i

person na ŵyr ACC pwy ydyw, neu

ii

dosbarth o bersonau na ŵyr ACC pwy ydynt fel unigolion,

b

os yw’n rhesymol ei gwneud yn ofynnol i’r derbynnydd ddarparu’r wybodaeth neu gyflwyno’r ddogfen,

c

os nad oes unrhyw beth yn adrannau 97 i 102 yn rhwystro ACC rhag ei gwneud yn ofynnol i’r derbynnydd ddarparu’r wybodaeth neu gyflwyno’r ddogfen, a

d

os yw’r tribiwnlys wedi cymeradwyo dyroddi’r hysbysiad.

2

Caniateir gwneud cais am gymeradwyaeth heb hysbysiad.

3

Ni chaiff y tribiwnlys gymeradwyo dyroddi’r hysbysiad trydydd parti anhysbys oni fo’n fodlon—

a

bod gofynion is-adran (1)(a) i (c) wedi eu bodloni,

b

nad yw’r wybodaeth neu’r ddogfen y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi ar gael yn rhwydd i ACC o ffynhonnell arall,

c

bod sail dros gredu y gallai’r person y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef neu unrhyw ddosbarth o bersonau y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef fod wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau’r gyfraith yn ymwneud â threth ddatganoledig, neu y gallent fethu â chydymffurfio â hi neu â hwy, a

d

ei bod yn debygol bod unrhyw fethiant o’r fath wedi arwain, neu y gallai arwain, at niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig yn ddifrifol.

4

Wrth gymeradwyo dyroddi hysbysiad trydydd parti anhysbys, caiff y tribiwnlys wneud unrhyw addasiadau i’r hysbysiad ag y bo’n briodol yn ei farn.