RHAN 4PWERAU YMCHWILIO ACC

PENNOD 2PWERAU I WNEUD GWYBODAETH A DOGFENNAU YN OFYNNOL

87Hysbysiadau trydydd parti

(1)

Caiff ACC ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad trydydd parti”) sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth neu gyflwyno dogfen—

(a)

os oes angen yr wybodaeth neu’r ddogfen ar ACC at ddiben gwirio sefyllfa dreth person arall (“y trethdalwr”) y gŵyr ACC pwy ydyw,

(b)

os yw’n rhesymol ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu’r wybodaeth neu gyflwyno’r ddogfen, ac

(c)

os nad oes unrhyw beth yn adrannau 97 i 102 yn rhwystro ACC rhag ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu’r wybodaeth neu gyflwyno’r ddogfen.

(2)

Ond ni chaiff ACC ddyroddi hysbysiad trydydd parti heb—

(a)

cytundeb y trethdalwr, neu

(b)

cymeradwyaeth y tribiwnlys.

(3)

O ran y trethdalwr y mae hysbysiad trydydd parti yn ymwneud ag ef—

(a)

rhaid iddo gael ei enwi yn yr hysbysiad, a

(b)

rhaid i ACC ddyroddi copi o’r hysbysiad iddo.

(4)

Ond pan fo’n cymeradwyo hysbysiad trydydd parti, caiff y tribiwnlys ddatgymhwyso un o ofynion is-adran (3), neu’r ddau ohonynt, os yw’n fodlon bod gan ACC sail dros gredu y gallai enwi’r trethdalwr neu, yn ôl y digwydd, ddyroddi copi o’r hysbysiad i’r trethdalwr, niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig yn ddifrifol.