RHAN 4PWERAU YMCHWILIO ACC

PENNOD 2PWERAU I WNEUD GWYBODAETH A DOGFENNAU YN OFYNNOL

86Hysbysiadau trethdalwr

(1)

Caiff ACC ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad trethdalwr”) sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson (“y trethdalwr”) ddarparu gwybodaeth neu gyflwyno dogfen—

(a)

os oes angen yr wybodaeth neu’r ddogfen ar ACC at ddiben gwirio sefyllfa dreth y trethdalwr,

(b)

os yw’n rhesymol ei gwneud yn ofynnol i’r trethdalwr ddarparu’r wybodaeth neu gyflwyno’r ddogfen, ac

(c)

os nad oes unrhyw beth yn adrannau 97 i 102 yn rhwystro ACC rhag ei gwneud yn ofynnol i’r trethdalwr ddarparu’r wybodaeth neu gyflwyno’r ddogfen.

F1(2)

Cyn dyroddi hysbysiad trethdalwr caiff ACC (ond nid oes angen iddo, yn ddarostyngedig i adran 97(2)) wneud cais i’r tribiwnlys am gymeradwyaeth i ddyroddi’r hysbysiad.