RHAN 4PWERAU YMCHWILIO ACC
PENNOD 2PWERAU I WNEUD GWYBODAETH A DOGFENNAU YN OFYNNOL
86Hysbysiadau trethdalwr
(1)
Caiff ACC ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad trethdalwr”) sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson (“y trethdalwr”) ddarparu gwybodaeth neu gyflwyno dogfen—
(a)
os oes angen yr wybodaeth neu’r ddogfen ar ACC at ddiben gwirio sefyllfa dreth y trethdalwr,
(b)
os yw’n rhesymol ei gwneud yn ofynnol i’r trethdalwr ddarparu’r wybodaeth neu gyflwyno’r ddogfen, ac
(c)
os nad oes unrhyw beth yn adrannau 97 i 102 yn rhwystro ACC rhag ei gwneud yn ofynnol i’r trethdalwr ddarparu’r wybodaeth neu gyflwyno’r ddogfen.
(2)
Ond ni chaiff ACC ddyroddi hysbysiad trethdalwr heb gymeradwyaeth y tribiwnlys.