RHAN 4PWERAU YMCHWILIO ACC

PENNOD 1RHAGARWEINIOL

Dehongli

85Ystyr “rhedeg busnes”

(1)

Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at redeg busnes yn cynnwys—

(a)

cyflawni unrhyw weithgaredd at ddibenion creu incwm o dir (ble bynnag y’i lleolir),

(b)

dilyn proffesiwn,

(c)

gweithgareddau elusen, a

(d)

gweithgareddau awdurdod lleol neu unrhyw awdurdod cyhoeddus arall.

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu drwy reoliadau bod—

(a)

cyflawni gweithgaredd penodedig, neu

(b)

cyflawni unrhyw weithgaredd, neu weithgaredd penodedig, gan berson penodedig,

i’w drin fel pe bai’n gyfystyr â rhedeg busnes, neu nad yw i’w drin felly, at ddibenion y Rhan hon.

(3)

Yn y Ddeddf hon, mae i “elusen” yr ystyr a roddir i “charity” gan F1baragraff 2A o Atodlen 18 i DTTT.