85Ystyr “rhedeg busnes”LL+C
(1)Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at redeg busnes yn cynnwys—
(a)cyflawni unrhyw weithgaredd at ddibenion creu incwm o dir (ble bynnag y’i lleolir),
(b)dilyn proffesiwn,
(c)gweithgareddau elusen, a
(d)gweithgareddau awdurdod lleol neu unrhyw awdurdod cyhoeddus arall.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu drwy reoliadau bod—
(a)cyflawni gweithgaredd penodedig, neu
(b)cyflawni unrhyw weithgaredd, neu weithgaredd penodedig, gan berson penodedig,
i’w drin fel pe bai’n gyfystyr â rhedeg busnes, neu nad yw i’w drin felly, at ddibenion y Rhan hon.
(3)Yn y Ddeddf hon, mae i “elusen” yr ystyr a roddir i “charity” gan Ran 1 o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid 2010 (p. 13).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 85 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194
I2A. 85 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)