84Ystyr “sefyllfa dreth”LL+C
(1)Yn y Rhan hon, ystyr “sefyllfa dreth”, mewn perthynas â pherson, yw sefyllfa’r person o ran unrhyw dreth ddatganoledig, gan gynnwys sefyllfa’r person o ran—
(a)rhwymedigaeth yn y gorffennol, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, i dalu unrhyw dreth ddatganoledig,
(b)cosbau [F1credydau treth], llog (gan gynnwys llog ar gosbau [F2a symiau sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredydau treth]) a symiau eraill a dalwyd, neu sy’n daladwy neu a all fod yn daladwy, gan y person neu i’r person mewn cysylltiad ag unrhyw dreth ddatganoledig, ac
(c)hawliadau neu hysbysiadau a wnaed neu a roddwyd, neu y gellir eu gwneud neu eu rhoi, mewn cysylltiad â rhwymedigaeth y person i dalu unrhyw dreth ddatganoledig [F3neu unrhyw swm mewn cysylltiad â chredyd treth],
ac mae cyfeiriadau at sefyllfa person o ran treth ddatganoledig benodol (sut bynnag y’u mynegir) i’w dehongli yn unol â hynny.
(2)Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at sefyllfa dreth person yn cynnwys cyfeiriadau at sefyllfa dreth—
(a)unigolyn sydd wedi marw, a
(b)corff corfforaethol neu gymdeithas anghorfforedig sydd wedi peidio â bod.
(3)Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at sefyllfa dreth person yn cyfeirio at sefyllfa dreth y person unrhyw bryd neu o ran unrhyw gyfnod, oni nodir i’r gwrthwyneb.
(4)Mae cyfeiriadau at wirio sefyllfa dreth person yn cynnwys cyfeiriadau at gynnal ymchwiliad neu at wneud ymholiad o unrhyw fath.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 84(1)(b) wedi eu mewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 18(2)(a)
F2Geiriau yn a. 84(1)(b) wedi eu mewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 18(2)(b)
F3Geiriau yn a. 84(1)(c) wedi eu mewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 18(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 84 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194
I2A. 84 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)