F1RHAN 3AY RHEOL GYFFREDINOL YN ERBYN OSGOI TRETHI
Cychwyn a darpariaeth drosiannol
81IY rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi: cychwyn a darpariaeth drosiannol
(1)
Mae’r rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw drefniant osgoi trethi yr ymrwymir iddo ar y dyddiad y daw’r Rhan hon i rym neu ar ôl y dyddiad hwnnw.
(2)
Pan fo trefniant osgoi trethi yn rhan o unrhyw drefniadau eraill yr ymrwymwyd iddynt cyn y diwrnod hwnnw, mae’r trefniadau eraill hynny i’w hanwybyddu at ddibenion adran 81C(4) oni bai mai canlyniad ystyried y trefniadau eraill hynny fyddai penderfynu nad oedd y trefniant osgoi trethi yn un artiffisial.