F1RHAN 3AY RHEOL GYFFREDINOL YN ERBYN OSGOI TRETHI

Annotations:

Gwrthweithio manteision treth

81FHysbysiad gwrthweithio arfaethedig

1

Caiff ACC ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad gwrthweithio arfaethedig”) i drethdalwr os yw ACC o’r farn—

a

bod mantais drethiannol i berson wedi deillio o drefniant artiffisial i osgoi trethi, a

b

y dylid gwrthweithio’r fantais drethiannol drwy addasiad o dan adran 81E.

2

Rhaid i hysbysiad gwrthweithio arfaethedig—

a

pennu’r trefniant osgoi trethi a’r fantais drethiannol,

b

esbonio pam fod ACC o’r farn bod mantais drethiannol wedi deillio o drefniant artiffisial i osgoi trethi,

c

nodi’r addasiad y mae ACC yn bwriadu ei wneud er mwyn gwrthweithio’r fantais drethiannol,

d

pennu unrhyw swm y bydd yn ofynnol i’r trethdalwr ei dalu yn unol â’r asesiad ACC arfaethedig, ac

e

hysbysu’r trethdalwr—

i

bod hysbysiad gwrthweithio terfynol i’w ddyroddi ar ôl diwedd y cyfnod o 45 o ddiwrnodau sy’n dechrau â diwrnod dyroddi’r hysbysiad gwrthweithio arfaethedig,

ii

y caiff y trethdalwr ofyn i ACC ymestyn y cyfnod 45 diwrnod hwnnw, a

iii

y caniateir i’r trethdalwr gyflwyno sylwadau i ACC ar unrhyw adeg cyn dyroddi’r hysbysiad gwrthweithio terfynol.