F1RHAN 3AY RHEOL GYFFREDINOL YN ERBYN OSGOI TRETHI

Trefniadau artiffisial i osgoi trethi

81CTrefniadau artiffisial i osgoi trethi

(1)

At ddibenion y Rhan hon, mae trefniant osgoi trethi yn “artiffisial” os nad yw ymrwymo iddo neu ei gyflawni yn weithred resymol mewn perthynas â darpariaethau deddfwriaeth drethi Cymru sy’n gymwys i’r trefniadau.

(2)

Wrth benderfynu pa un a yw’r trefniant osgoi trethi yn artiffisial, caniateir ystyried yn benodol—

(a)

unrhyw sylwedd economaidd neu fasnachol dilys sydd i’r trefniant (ac eithrio cael mantais drethiannol);

(b)

pa un ai canlyniad y trefniant yw bod swm o dreth i’w godi y mae’n rhesymol cymryd nad hwnnw oedd y canlyniad a ragwelwyd pan ddeddfwyd darpariaeth berthnasol deddfwriaeth drethi Cymru.

(3)

Ond nid yw trefniant yn artiffisial os oedd, ar yr adeg yr ymrwymwyd iddo neu y’i cyflawnwyd—

(a)

y trefniant yn gyson â’r arferion a oedd yn bodoli’n gyffredinol ar y pryd, a

(b)

ACC wedi mynegi ei fod yn derbyn yr arfer hwnnw.

(4)

Pan fo trefniant osgoi trethi yn rhan o unrhyw drefniadau eraill, rhaid rhoi sylw i’r trefniadau eraill hynny hefyd wrth benderfynu pa un a yw’r trefniant osgoi trethi yn artiffisial.

(5)

Yn yr adran hon, ystyr “deddfwriaeth drethi Cymru” yw—

(a)

Deddfau Trethi Cymru, a

(b)

unrhyw is-ddeddfwriaeth (o fewn ystyr adran 21 o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30)) a wneir o dan y Deddfau hynny.