F1RHAN 3AY RHEOL GYFFREDINOL YN ERBYN OSGOI TRETHI
Trefniadau artiffisial i osgoi trethi
81BTrefniadau osgoi trethi
(1)
At ddibenion y Rhan hon, mae trefniant yn “trefniant osgoi trethi” os cael mantais drethiannol ar gyfer unrhyw berson yw’r prif ddiben, neu un o’r prif ddibenion, pam y mae trethdalwr yn ymrwymo i’r trefniant.
(2)
Wrth benderfynu ai prif ddiben trefniant, neu un o’i brif ddibenion, yw cael mantais drethiannol, caniateir ystyried yn benodol y swm o dreth ddatganoledig a fyddai i’w godi yn absenoldeb y trefniant.
(3)
Yn y Rhan hon—
(a)
mae “trefniant” yn cynnwys unrhyw drafodiad, unrhyw gynllun, unrhyw weithred, unrhyw weithrediad, unrhyw gytundeb, unrhyw grant, unrhyw ddealltwriaeth, unrhyw addewid, unrhyw ymgymeriad, unrhyw ddigwyddiad neu unrhyw gyfres o unrhyw un neu ragor o’r pethau hynny (pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio);
(b)
mae cyfeiriadau at drefniant i’w darllen fel pe baent yn cynnwys—
(i)
cyfres o drefniadau, a
(ii)
unrhyw ran o drefniant neu unrhyw gam o drefniant sy’n cynnwys mwy nag un ran neu gam;
(c)
ystyr “trethdalwr” yw person sy’n agored i dreth ddatganoledig neu a fyddai’n agored iddi oni bai am y trefniant osgoi trethi o dan sylw.