F1RHAN 3AY RHEOL GYFFREDINOL YN ERBYN OSGOI TRETHI
Trosolwg
81AYstyr “y rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi” a throsolwg ohoni
(1)
Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwrthweithio manteision treth sy’n deillio o drefniadau artiffisial i osgoi trethi, gan gynnwys darpariaeth—
(a)
ynghylch ystyr “trefniant osgoi trethi”, “artiffisial” a “mantais drethiannol” (adrannau 81B i 81D);
(b)
ynghylch pŵer ACC i wneud addasiadau i wrthweithio manteision treth a’r camau i’w cymryd gan ACC mewn cysylltiad ag addasiadau o’r fath (adrannau 81E i 81G).
(2)
Enw’r rheolau yn y Rhan hon gyda’i gilydd yw “y rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi”.