RHAN 3FFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU

PENNOD 8GWEITHDREFN AR GYFER GWNEUD HAWLIADAU ETC.

81Setliadau contract

(1)

Mae’r cyfeiriad yn adran 63(1)(a) at swm o dreth F1a gesglir gan ACC a dalwyd gan berson yn cynnwys swm a dalwyd gan berson o dan setliad contract mewn cysylltiad â threth F1a gesglir gan ACC y credwyd ei bod yn daladwy.

F2(1A)

Yn adran 63A(1), mae’r cyfeiriad at ad-dalu swm o dreth trafodiadau tir yn cynnwys ad-dalu swm a delir gan berson o dan setliad contract mewn cysylltiad â’r swm hwnnw o dreth trafodiadau tir.

(2)

Mae’r darpariaethau a ganlyn yn gymwys os nad yr un person yw’r person a dalodd y swm o dan y setliad contract (“y talwr”) a’r person yr oedd y dreth F1a gesglir gan ACC yn daladwy ganddo (“y trethdalwr”).

(3)

Mewn perthynas â hawliad o dan adran 63 mewn cysylltiad â’r swm hwnnw—

(a)

mae’r cyfeiriadau at yr hawlydd yn adran 67(5), (6) ac (8) yn cael effaith fel pe baent yn cynnwys y trethdalwr, a

(b)

mae’r cyfeiriadau at yr hawlydd yn adrannau 67(9) a 80(1)(b) yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at y trethdalwr.

(4)

Mewn perthynas â hawliad o dan adran 63 F3neu 63A mewn cysylltiad â’r swm hwnnw, mae cyfeiriadau at dreth F1a gesglir gan ACC yn adrannau 68, 73 a 77 yn cynnwys y swm a dalwyd o dan y setliad contract.

(5)

Pan fo’r seiliau dros roi effaith i hawliad gan y talwr mewn cysylltiad â’r swm hefyd yn rhoi seiliau ar gyfer asesiad ACC o’r trethdalwr mewn cysylltiad â’r dreth F1a gesglir gan ACC

(a)

caiff ACC osod unrhyw swm sydd i’w ad-dalu i’r talwr o ganlyniad i’r hawliad yn erbyn unrhyw swm sy’n daladwy gan y trethdalwr o ganlyniad i’r asesiad, a

(b)

mae rhwymedigaethau ACC a’r trethdalwr wedi eu cyflawni i raddau’r gwrthgyfrif.