RHAN 3FFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU
PENNOD 8GWEITHDREFN AR GYFER GWNEUD HAWLIADAU ETC.
81Setliadau contract
(1)
Mae’r cyfeiriad yn adran 63(1)(a) at swm o dreth ddatganoledig a dalwyd gan berson yn cynnwys swm a dalwyd gan berson o dan setliad contract mewn cysylltiad â threth ddatganoledig y credwyd ei bod yn daladwy.
F1(1A)
Yn adran 63A(1), mae’r cyfeiriad at ad-dalu swm o dreth trafodiadau tir yn cynnwys ad-dalu swm a delir gan berson o dan setliad contract mewn cysylltiad â’r swm hwnnw o dreth trafodiadau tir.
(2)
Mae’r darpariaethau a ganlyn yn gymwys os nad yr un person yw’r person a dalodd y swm o dan y setliad contract (“y talwr”) a’r person yr oedd y dreth ddatganoledig yn daladwy ganddo (“y trethdalwr”).
(3)
Mewn perthynas â hawliad o dan adran 63 mewn cysylltiad â’r swm hwnnw—
(a)
mae’r cyfeiriadau at yr hawlydd yn adran 67(5), (6) ac (8) yn cael effaith fel pe baent yn cynnwys y trethdalwr, a
(b)
mae’r cyfeiriadau at yr hawlydd yn adrannau 67(9) a 80(1)(b) yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at y trethdalwr.
(4)
Mewn perthynas â hawliad o dan adran 63 F2neu 63A mewn cysylltiad â’r swm hwnnw, mae cyfeiriadau at dreth ddatganoledig yn adrannau 68, 73 a 77 yn cynnwys y swm a dalwyd o dan y setliad contract.
(5)
Pan fo’r seiliau dros roi effaith i hawliad gan y talwr mewn cysylltiad â’r swm hefyd yn rhoi seiliau ar gyfer asesiad ACC o’r trethdalwr mewn cysylltiad â’r dreth ddatganoledig—
(a)
caiff ACC osod unrhyw swm sydd i’w ad-dalu i’r talwr o ganlyniad i’r hawliad yn erbyn unrhyw swm sy’n daladwy gan y trethdalwr o ganlyniad i’r asesiad, a
(b)
mae rhwymedigaethau ACC a’r trethdalwr wedi eu cyflawni i raddau’r gwrthgyfrif.