xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae’r adran hon yn gymwys—
(a)pan wneir hawliad o dan adran 63,
(b)pan fo’r seiliau ar gyfer rhoi effaith i’r hawliad hefyd yn rhoi seiliau ar gyfer asesiad ACC o’r hawlydd mewn perthynas â’r dreth ddatganoledig, ac
(c)pe gellid gwneud asesiad o’r fath oni bai am gyfyngiad perthnasol.
(2)Mewn achos sy’n dod o fewn adran 79(1)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad at yr hawlydd yn is-adran (1)(b) o’r adran hon yn cynnwys unrhyw berson perthnasol (fel y’i diffinnir yn adran 79(3)).
(3)Mae’r canlynol yn gyfyngiadau perthnasol—
(a)adran 58;
(b)terfyn amser ar gyfer gwneud asesiad ACC yn dod i ben.
(4)Pan fo’r adran hon yn gymwys—
(a)mae’r cyfyngiadau perthnasol i’w diystyru, a
(b)nid yw asesiad ACC oddi allan i’r cyfnod os caiff ei wneud cyn dyfarnu’n derfynol ar yr hawliad.
(5)Nid yw hawliad wedi ei ddyfarnu’n derfynol—
(a)hyd na ellir amrywio’r hawliad mwyach, neu
(b)hyd na ellir amrywio’r swm y mae’n berthnasol iddo mwyach,
(boed drwy adolygiad, drwy apêl neu fel arall).
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1A. 80 cymhwyswyd (gydag addasiadau) (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 7 para. 43(5); O.S. 2018/34, ergl. 3
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 80 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 80 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3