RHAN 2AWDURDOD CYLLID CYMRU
Pwyllgorau a staff
8Pwyllgorau ac is-bwyllgorau
(1)
Caiff ACC sefydlu pwyllgorau at unrhyw ddiben sy’n ymwneud â’i swyddogaethau.
(2)
Caiff ACC bennu cyfansoddiad ei bwyllgorau.
(3)
Caiff ACC benodi personau nad ydynt yn aelodau o ACC i fod yn aelodau o bwyllgor, ond nid oes gan y personau hynny hawl i bleidleisio yng nghyfarfodydd y pwyllgor.
(4)
Caiff pwyllgor o ACC sefydlu is-bwyllgorau.
(5)
Caiff pwyllgor sy’n sefydlu is-bwyllgor bennu ei gyfansoddiad.
(6)
Caiff pwyllgor benodi personau nad ydynt yn aelodau o ACC i fod yn aelodau o is-bwyllgor, ond nid oes gan y personau hynny hawl i bleidleisio yng nghyfarfodydd yr is-bwyllgor.
(7)
Caiff ACC dalu i unrhyw aelodau o bwyllgor a sefydlir ganddo, neu i unrhyw aelodau o is-bwyllgor a sefydlir gan bwyllgor o’r fath, nad ydynt yn aelodau o ACC—
(a)
unrhyw dâl a bennir gan ACC, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, a
(b)
unrhyw symiau a bennir gan ACC, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, i ad-dalu’r treuliau yr aethant iddynt wrth gyflawni eu swyddogaethau.