RHAN 3FFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU
PENNOD 8GWEITHDREFN AR GYFER GWNEUD HAWLIADAU ETC.
79Yr hawlydd: partneriaethau
(1)
Mae’r adran hon yn ymwneud â chymhwyso adran 63 mewn achos pan fo naill ai—
(a)
(mewn achos sy’n dod o fewn adran 63(1)(a)) y person wedi talu’r swm o dan sylw yn rhinwedd y ffaith ei fod yn bartner mewn partneriaeth, neu
(b)
(mewn achos sy’n dod o fewn adran 63(1)(b)) yr asesiad wedi ei wneud o’r person yn y rhinwedd honno, neu’r dyfarniad yn ymwneud â’i rwymedigaeth yn y rhinwedd honno.
(2)
Mewn achos o’r fath, dim ond person perthnasol sydd wedi ei enwebu i wneud hynny gan yr holl bersonau perthnasol a gaiff wneud hawliad o dan adran 63 mewn perthynas â’r swm o dan sylw.
(3)
Y personau perthnasol yw’r personau a fyddai wedi bod yn agored fel partneriaid i dalu’r swm o dan sylw pe byddai’r taliad wedi bod yn ddyledus neu (mewn achos sy’n dod o fewn adran 63(1)(b)) pe byddai’r asesiad neu’r dyfarniad wedi ei wneud yn gywir.