79Yr hawlydd: partneriaethauLL+C
(1)Mae’r adran hon yn ymwneud â chymhwyso adran 63 mewn achos pan fo naill ai—
(a)(mewn achos sy’n dod o fewn adran 63(1)(a)) y person wedi talu’r swm o dan sylw yn rhinwedd y ffaith ei fod yn bartner mewn partneriaeth, neu
(b)(mewn achos sy’n dod o fewn adran 63(1)(b)) yr asesiad wedi ei wneud o’r person yn y rhinwedd honno, neu’r dyfarniad yn ymwneud â’i rwymedigaeth yn y rhinwedd honno.
(2)Mewn achos o’r fath, dim ond person perthnasol sydd wedi ei enwebu i wneud hynny gan yr holl bersonau perthnasol a gaiff wneud hawliad o dan adran 63 mewn perthynas â’r swm o dan sylw.
(3)Y personau perthnasol yw’r personau a fyddai wedi bod yn agored fel partneriaid i dalu’r swm o dan sylw pe byddai’r taliad wedi bod yn ddyledus neu (mewn achos sy’n dod o fewn adran 63(1)(b)) pe byddai’r asesiad neu’r dyfarniad wedi ei wneud yn gywir.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1A. 79 cymhwyswyd (gydag addasiadau) (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 7 para. 43(4); O.S. 2018/34, ergl. 3
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 79 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 79 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3