RHAN 3FFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU
PENNOD 8GWEITHDREFN AR GYFER GWNEUD HAWLIADAU ETC.
73Rhoi effaith i hawliadau a diwygiadau
(1)
Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i hawliad gael ei wneud, ei ddiwygio neu ei gywiro—
(a)
rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad am ei benderfyniad i’r hawlydd, a
(b)
pan fo ACC yn penderfynu rhoi effaith i’r hawliad neu’r diwygiad (boed yn rhannol neu’n llawn), rhaid iddo wneud hynny drwy F1ollwng y swm o dreth ddatganoledig neu ei ad-dalu i’r hawlydd.
(2)
Pan fo ACC yn gwneud ymholiad ynghylch hawliad neu ddiwygiad—
(a)
nid yw is-adran (1) yn gymwys hyd oni ddyroddir hysbysiad cau o dan adran 75, ac yna mae’n gymwys yn ddarostyngedig i adran 77, ond
(b)
caiff ACC roi effaith i’r hawliad neu’r diwygiad unrhyw bryd cyn hynny, ar sail dros dro, i unrhyw raddau y mae’n eu hystyried yn briodol.