73Rhoi effaith i hawliadau a diwygiadauLL+C
(1)Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i hawliad gael ei wneud, ei ddiwygio neu ei gywiro—
(a)rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad am ei benderfyniad i’r hawlydd, a
(b)pan fo ACC yn penderfynu rhoi effaith i’r hawliad neu’r diwygiad (boed yn rhannol neu’n llawn), rhaid iddo wneud hynny drwy [F1ollwng y swm o dreth ddatganoledig neu ei ad-dalu i’r hawlydd].
(2)Pan fo ACC yn gwneud ymholiad ynghylch hawliad neu ddiwygiad—
(a)nid yw is-adran (1) yn gymwys hyd oni ddyroddir hysbysiad cau o dan adran 75, ac yna mae’n gymwys yn ddarostyngedig i adran 77, ond
(b)caiff ACC roi effaith i’r hawliad neu’r diwygiad unrhyw bryd cyn hynny, ar sail dros dro, i unrhyw raddau y mae’n eu hystyried yn briodol.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 73(1)(b) wedi eu hamnewid (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 32; O.S. 2018/34, ergl. 3
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 73 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 73 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3