RHAN 3FFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU

PENNOD 8GWEITHDREFN AR GYFER GWNEUD HAWLIADAU ETC.

72ACC yn cywiro hawliad

(1)

Caiff ACC ddiwygio hawliad drwy ddyroddi hysbysiad i’r hawlydd er mwyn cywiro gwallau neu hepgoriadau amlwg yn yr hawliad (boed wallau o ran egwyddor, camgymeriadau rhifyddol neu fel arall).

(2)

Ni chaniateir gwneud cywiriad o’r fath—

(a)

dros 9 mis ar ôl y diwrnod y gwnaed yr hawliad, neu

(b)

os yw ACC yn dyroddi hysbysiad o dan adran 74, yn ystod y cyfnod—

(i)

sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad, a

(ii)

sy’n dod i ben â’r diwrnod y caiff yr ymholiad o dan yr adran honno ei gwblhau.

(3)

Nid oes unrhyw effaith i gywiriad o dan yr adran hon os yw’r hawlydd, o fewn y cyfnod o 3 mis sy’n dechrau â’r diwrnod yn dilyn y diwrnod y dyroddir hysbysiad am y cywiriad, yn rhoi hysbysiad i ACC yn gwrthod y cywiriad.