Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

72ACC yn cywiro hawliadLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff ACC ddiwygio hawliad drwy ddyroddi hysbysiad i’r hawlydd er mwyn cywiro gwallau neu hepgoriadau amlwg yn yr hawliad (boed wallau o ran egwyddor, camgymeriadau rhifyddol neu fel arall).

(2)Ni chaniateir gwneud cywiriad o’r fath—

(a)dros 9 mis ar ôl y diwrnod y gwnaed yr hawliad, neu

(b)os yw ACC yn dyroddi hysbysiad o dan adran 74, yn ystod y cyfnod—

(i)sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad, a

(ii)sy’n dod i ben â’r diwrnod y caiff yr ymholiad o dan yr adran honno ei gwblhau.

(3)Nid oes unrhyw effaith i gywiriad o dan yr adran hon os yw’r hawlydd, o fewn y cyfnod o 3 mis sy’n dechrau â’r diwrnod yn dilyn y diwrnod y dyroddir hysbysiad am y cywiriad, yn rhoi hysbysiad i ACC yn gwrthod y cywiriad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 72 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 72 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3