RHAN 2AWDURDOD CYLLID CYMRU
Aelodaeth
7Diswyddo aelodau etc.
1
Caiff Gweinidogion Cymru ddiswyddo person fel aelod anweithredol o ACC drwy roi hysbysiad—
a
os daw’r person yn anghymwys i’w benodi yn aelod anweithredol yn rhinwedd adran 4,
b
os yw’r person wedi bod yn absennol o gyfarfodydd ACC am gyfnod hwy na 6 mis heb ganiatâd ACC, neu
c
os yw Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw’r person yn addas i fod yn aelod neu nad yw’r person yn gallu neu’n fodlon cyflawni ei swyddogaethau fel aelod.
2
Caiff aelodau anweithredol ACC ddiswyddo person fel aelod gweithredol etholedig o ACC drwy roi hysbysiad—
a
os yw’r person wedi bod yn absennol o gyfarfodydd ACC am gyfnod hwy na 6 mis heb ganiatâd ACC, neu
b
os yw aelodau anweithredol ACC o’r farn nad yw’r person yn addas i fod yn aelod neu nad yw’r person yn gallu neu’n fodlon cyflawni ei swyddogaethau fel aelod.
3
Mae person yn peidio â bod yn is-gadeirydd ACC pan fydd yn peidio â bod yn aelod anweithredol.
4
Mae person yn peidio â bod yn aelod anweithredol o ACC os daw’r person yn aelod o staff ACC.
5
Mae person yn peidio â bod yn aelod gweithredol o ACC pan fydd yn peidio â bod yn brif weithredwr neu’n aelod arall o staff ACC.