RHAN 3FFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU
PENNOD 8GWEITHDREFN AR GYFER GWNEUD HAWLIADAU ETC.
69Dyletswydd i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel
(1)
Rhaid i berson sy’n gwneud hawliad o dan adran 62 F1, 63 neu 63A—
(a)
bod wedi cadw unrhyw gofnodion y mae eu hangen er mwyn galluogi’r person i wneud hawliad cywir a chyflawn, a
(b)
storio’r cofnodion hynny yn ddiogel yn unol â’r adran hon.
(2)
Rhaid storio’r cofnodion yn ddiogel hyd yr olaf o’r canlynol—
(a)
(ac eithrio pan fo paragraff (b) neu (c) yn gymwys) diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y gwnaed yr hawliad;
(b)
pan fo ymholiad i’r hawliad, neu i ddiwygiad i’r hawliad, y diwrnod y cwblheir yr ymholiad;
(c)
pan fo’r hawliad wedi ei ddiwygio ac nad oes ymholiad i’r diwygiad, y diwrnod pan fo pŵer ACC i gynnal ymholiad i’r diwygiad yn dod i ben.
(3)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—
(a)
darparu bod y cofnodion y mae’n ofynnol eu cadw a’u storio’n ddiogel o dan yr adran hon yn cynnwys cofnodion o ddisgrifiad a ragnodir gan y rheoliadau, neu ddarparu nad ydynt yn cynnwys cofnodion o’r fath;
(b)
rhagnodi disgrifiadau o ddogfennau ategol y mae’n ofynnol eu cadw o dan yr adran hon.
(4)
Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth drwy gyfeirio at bethau a bennir mewn hysbysiad a gyhoeddir gan ACC yn unol â’r rheoliadau (ac nad yw wedi ei dynnu’n ôl gan hysbysiad dilynol).
(5)
Mae “dogfennau ategol” yn cynnwys cyfrifon, llyfrau, gweithredoedd, contractau, talebau a derbynebau.