RHAN 3FFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU

PENNOD 7RHYDDHAD YN ACHOS ASESIAD GORMODOL NEU DRETH A ORDALWYD

Seiliau eraill dros wrthod hawliadau

67Achosion pan na fo angen i ACC roi effaith i hawliad

(1)

Nid oes angen i ACC roi effaith i hawliad am F1ryddhad a wneir o dan adran 63 os yw’r hawliad yn dod o fewn achos a ddisgrifir yn yr adran hon, neu i’r graddau y mae’n gwneud hynny.

(2)

Achos 1 yw pan fo’r swm o dreth ddatganoledig a dalwyd, neu sy’n agored i’w dalu, yn ormodol oherwydd—

(a)

camgymeriad mewn hawliad F2neu ddewis, neu

(b)

camgymeriad o ran gwneud F3hawliad neu ddewis, neu fethu â gwneud hawliad neu ddewis.

F4(2A)

Yn is-adran (2), ystyr “dewis” yw dewis a wneir o dan baragraff 3, 5 neu 12 o Atodlen 15 i DTTT (rhyddhadau sy’n ymwneud â thai cymdeithasol).

(3)

Achos 2 yw pan fo’r hawlydd yn gallu ceisio F5rhyddhad drwy gymryd camau eraill o dan y Rhan hon, neu pan fydd yn gallu gwneud hynny.

(4)

Achos 3 yw—

(a)

pan allai’r hawlydd fod wedi ceisio F6rhyddhad drwy gymryd camau o’r fath o fewn cyfnod sydd wedi dod i ben erbyn hyn, a

(b)

pan wyddai’r hawlydd neu pan ddylai’n rhesymol fod wedi gwybod, cyn diwedd y cyfnod hwnnw, bod F6rhyddhad o’r fath ar gael.

(5)

Achos 4 yw pan wneir yr hawliad ar seiliau—

(a)

sydd wedi eu rhoi gerbron y tribiwnlys yn ystod apêl gan yr hawlydd sy’n ymwneud â’r swm a dalwyd neu’r swm sy’n agored i’w dalu, neu

(b)

sydd wedi eu rhoi gerbron ACC yn ystod adolygiad gan yr hawlydd sy’n ymwneud â’r swm a dalwyd neu’r swm sy’n agored i’w dalu, sy’n cael ei drin fel pe bai wedi ei ddyfarnu gan y tribiwnlys yn rhinwedd adran 184.

(6)

Achos 5 yw pan wyddai’r hawlydd, neu pan ddylai’n rhesymol fod wedi gwybod, am y seiliau ar gyfer yr hawliad cyn y diweddaraf o’r canlynol—

(a)

y diwrnod pan ddyfarnodd y tribiwnlys ynghylch apêl berthnasol y gellid bod wedi cyflwyno’r sail fel rhan ohoni (neu’r dyddiad y mae i’w thrin fel pe bai wedi ei dyfarnu felly);

(b)

y diwrnod pan dynnodd yr hawlydd apêl berthnasol i’r tribiwnlys yn ôl;

(c)

diwedd y cyfnod pan oedd gan yr hawlydd hawl i wneud apêl berthnasol i’r tribiwnlys.

(7)

Yn is-adran (6), ystyr “apêl berthnasol” yw apêl gan yr hawlydd sy’n ymwneud â’r swm a dalwyd neu’r swm sy’n agored i’w dalu.

(8)

Achos 6 yw pan dalwyd y swm o dan sylw neu pan fo’n agored i’w dalu—

(a)

o ganlyniad i achos sy’n gorfodi talu’r swm hwnnw a ddygwyd yn erbyn yr hawlydd gan ACC, neu

(b)

yn unol â chytundeb rhwng yr hawlydd ac ACC sy’n setlo achos o’r fath.

(9)

Achos 7 yw—

(a)

pan fo’r swm a dalwyd, neu’r swm sy’n agored i’w dalu, yn ormodol oherwydd camgymeriad wrth gyfrifo rhwymedigaeth yr hawlydd i dreth ddatganoledig, a

(b)

pan wnaed y camgymeriad oherwydd bod rhwymedigaeth wedi ei chyfrifo yn unol â’r arfer a oedd yn bodoli’n gyffredinol ar y pryd.

(10)

Nid yw achos 7 yn gymwys pan fo’r swm a dalwyd, neu’r swm sy’n agored i’w dalu, yn dreth ddatganoledig sydd wedi ei chodi’n groes i gyfraith yr UE.

(11)

At ddibenion is-adran (10), caiff swm o dreth ddatganoledig ei chodi’n groes i gyfraith yr UEF7...—

(a)

F8os yw’r dreth ddatganoledig a godir, yn yr amgylchiadau o dan sylw, yn groes i’r darpariaethau sy’n ymwneud â rhydd symudiad nwyddau, personau, gwasanaethau a chyfalaf yn Nheitlau II a IV o Ran 3 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd, F9a

F10(b)

os yw’r hawliau a roddir gan y darpariaethau hynny, ar yr adeg y codir y dreth, yn cael eu cydnabod ac ar gael mewn cyfraith ddomestig yn rhinwedd Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) neu unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan y Ddeddf honno.

F11(12)

Achos 8 yw—

(a)

pan wneir yr hawliad mewn cysylltiad â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, a

(b)

pan na fo swm o dreth gwarediadau tirlenwi y mae’n ofynnol i’r hawlydd ei dalu wedi ei dalu.