RHAN 3FFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU
PENNOD 7YMWARED YN ACHOS ASESIAD GORMODOL NEU DRETH A ORDALWYD
Seiliau eraill dros wrthod hawliadau
67Achosion pan na fo angen i ACC roi effaith i hawliad
(1)
Nid oes angen i ACC roi effaith i hawliad am ymwared a wneir o dan adran 63 os yw’r hawliad yn dod o fewn achos a ddisgrifir yn yr adran hon, neu i’r graddau y mae’n gwneud hynny.
(2)
Achos 1 yw pan fo’r swm o dreth ddatganoledig a dalwyd, neu sy’n agored i’w dalu, yn ormodol oherwydd—
(a)
camgymeriad mewn hawliad, neu
(b)
camgymeriad o ran gwneud hawliad, neu fethu â gwneud hawliad.
(3)
Achos 2 yw pan fo’r hawlydd yn gallu ceisio ymwared drwy gymryd camau eraill o dan y Rhan hon, neu pan fydd yn gallu gwneud hynny.
(4)
Achos 3 yw—
(a)
pan allai’r hawlydd fod wedi ceisio ymwared drwy gymryd camau o’r fath o fewn cyfnod sydd wedi dod i ben erbyn hyn, a
(b)
pan wyddai’r hawlydd neu pan ddylai’n rhesymol fod wedi gwybod, cyn diwedd y cyfnod hwnnw, bod ymwared o’r fath ar gael.
(5)
Achos 4 yw pan wneir yr hawliad ar seiliau—
(a)
sydd wedi eu rhoi gerbron y tribiwnlys yn ystod apêl gan yr hawlydd sy’n ymwneud â’r swm a dalwyd neu’r swm sy’n agored i’w dalu, neu
(b)
sydd wedi eu rhoi gerbron ACC yn ystod adolygiad gan yr hawlydd sy’n ymwneud â’r swm a dalwyd neu’r swm sy’n agored i’w dalu, sy’n cael ei drin fel pe bai wedi ei ddyfarnu gan y tribiwnlys yn rhinwedd adran 184.
(6)
Achos 5 yw pan wyddai’r hawlydd, neu pan ddylai’n rhesymol fod wedi gwybod, am y seiliau ar gyfer yr hawliad cyn y diweddaraf o’r canlynol—
(a)
y diwrnod pan ddyfarnodd y tribiwnlys ynghylch apêl berthnasol y gellid bod wedi cyflwyno’r sail fel rhan ohoni (neu’r dyddiad y mae i’w thrin fel pe bai wedi ei dyfarnu felly);
(b)
y diwrnod pan dynnodd yr hawlydd apêl berthnasol i’r tribiwnlys yn ôl;
(c)
diwedd y cyfnod pan oedd gan yr hawlydd hawl i wneud apêl berthnasol i’r tribiwnlys.
(7)
Yn is-adran (6), ystyr “apêl berthnasol” yw apêl gan yr hawlydd sy’n ymwneud â’r swm a dalwyd neu’r swm sy’n agored i’w dalu.
(8)
Achos 6 yw pan dalwyd y swm o dan sylw neu pan fo’n agored i’w dalu—
(a)
o ganlyniad i achos sy’n gorfodi talu’r swm hwnnw a ddygwyd yn erbyn yr hawlydd gan ACC, neu
(b)
yn unol â chytundeb rhwng yr hawlydd ac ACC sy’n setlo achos o’r fath.
(9)
Achos 7 yw—
(a)
pan fo’r swm a dalwyd, neu’r swm sy’n agored i’w dalu, yn ormodol oherwydd camgymeriad wrth gyfrifo rhwymedigaeth yr hawlydd i dreth ddatganoledig, a
(b)
pan wnaed y camgymeriad oherwydd bod rhwymedigaeth wedi ei chyfrifo yn unol â’r arfer a oedd yn bodoli’n gyffredinol ar y pryd.
(10)
Nid yw achos 7 yn gymwys pan fo’r swm a dalwyd, neu’r swm sy’n agored i’w dalu, yn dreth ddatganoledig sydd wedi ei chodi’n groes i gyfraith yr UE.
(11)
At ddibenion is-adran (10), caiff swm o dreth ddatganoledig ei chodi’n groes i gyfraith yr UE os yw’r dreth ddatganoledig a godir, yn yr amgylchiadau o dan sylw, yn groes i—
(a)
y darpariaethau sy’n ymwneud â rhydd symudiad nwyddau, personau, gwasanaethau a chyfalaf yn Nheitlau II a IV o Ran 3 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd, neu
(b)
darpariaethau unrhyw gytuniad dilynol sy’n disodli’r darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (a).