67Achosion pan na fo angen i ACC roi effaith i hawliadLL+C
(1)Nid oes angen i ACC roi effaith i hawliad am [F1ryddhad] a wneir o dan adran 63 os yw’r hawliad yn dod o fewn achos a ddisgrifir yn yr adran hon, neu i’r graddau y mae’n gwneud hynny.
(2)Achos 1 yw pan fo’r swm o dreth ddatganoledig a dalwyd, neu sy’n agored i’w dalu, yn ormodol oherwydd—
(a)camgymeriad mewn hawliad [F2neu ddewis], neu
(b)camgymeriad o ran gwneud [F3hawliad neu ddewis, neu fethu â gwneud hawliad neu ddewis].
[F4(2A)Yn is-adran (2), ystyr “dewis” yw dewis a wneir o dan baragraff 3, 5 neu 12 o Atodlen 15 i DTTT (rhyddhadau sy’n ymwneud â thai cymdeithasol).]
(3)Achos 2 yw pan fo’r hawlydd yn gallu ceisio [F5rhyddhad] drwy gymryd camau eraill o dan y Rhan hon, neu pan fydd yn gallu gwneud hynny.
(4)Achos 3 yw—
(a)pan allai’r hawlydd fod wedi ceisio [F6rhyddhad] drwy gymryd camau o’r fath o fewn cyfnod sydd wedi dod i ben erbyn hyn, a
(b)pan wyddai’r hawlydd neu pan ddylai’n rhesymol fod wedi gwybod, cyn diwedd y cyfnod hwnnw, bod [F6rhyddhad] o’r fath ar gael.
(5)Achos 4 yw pan wneir yr hawliad ar seiliau—
(a)sydd wedi eu rhoi gerbron y tribiwnlys yn ystod apêl gan yr hawlydd sy’n ymwneud â’r swm a dalwyd neu’r swm sy’n agored i’w dalu, neu
(b)sydd wedi eu rhoi gerbron ACC yn ystod adolygiad gan yr hawlydd sy’n ymwneud â’r swm a dalwyd neu’r swm sy’n agored i’w dalu, sy’n cael ei drin fel pe bai wedi ei ddyfarnu gan y tribiwnlys yn rhinwedd adran 184.
(6)Achos 5 yw pan wyddai’r hawlydd, neu pan ddylai’n rhesymol fod wedi gwybod, am y seiliau ar gyfer yr hawliad cyn y diweddaraf o’r canlynol—
(a)y diwrnod pan ddyfarnodd y tribiwnlys ynghylch apêl berthnasol y gellid bod wedi cyflwyno’r sail fel rhan ohoni (neu’r dyddiad y mae i’w thrin fel pe bai wedi ei dyfarnu felly);
(b)y diwrnod pan dynnodd yr hawlydd apêl berthnasol i’r tribiwnlys yn ôl;
(c)diwedd y cyfnod pan oedd gan yr hawlydd hawl i wneud apêl berthnasol i’r tribiwnlys.
(7)Yn is-adran (6), ystyr “apêl berthnasol” yw apêl gan yr hawlydd sy’n ymwneud â’r swm a dalwyd neu’r swm sy’n agored i’w dalu.
(8)Achos 6 yw pan dalwyd y swm o dan sylw neu pan fo’n agored i’w dalu—
(a)o ganlyniad i achos sy’n gorfodi talu’r swm hwnnw a ddygwyd yn erbyn yr hawlydd gan ACC, neu
(b)yn unol â chytundeb rhwng yr hawlydd ac ACC sy’n setlo achos o’r fath.
(9)Achos 7 yw—
(a)pan fo’r swm a dalwyd, neu’r swm sy’n agored i’w dalu, yn ormodol oherwydd camgymeriad wrth gyfrifo rhwymedigaeth yr hawlydd i dreth ddatganoledig, a
(b)pan wnaed y camgymeriad oherwydd bod rhwymedigaeth wedi ei chyfrifo yn unol â’r arfer a oedd yn bodoli’n gyffredinol ar y pryd.
(10)Nid yw achos 7 yn gymwys pan fo’r swm a dalwyd, neu’r swm sy’n agored i’w dalu, yn dreth ddatganoledig sydd wedi ei chodi’n groes i gyfraith yr UE.
(11)At ddibenion is-adran (10), caiff swm o dreth ddatganoledig ei chodi’n groes i gyfraith yr UE os yw’r dreth ddatganoledig a godir, yn yr amgylchiadau o dan sylw, yn groes i—
(a)y darpariaethau sy’n ymwneud â rhydd symudiad nwyddau, personau, gwasanaethau a chyfalaf yn Nheitlau II a IV o Ran 3 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd, neu
(b)darpariaethau unrhyw gytuniad dilynol sy’n disodli’r darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (a).
[F7(12)Achos 8 yw—
(a)pan wneir yr hawliad mewn cysylltiad â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, a
(b)pan na fo swm o dreth gwarediadau tirlenwi y mae’n ofynnol i’r hawlydd ei dalu wedi ei dalu.]
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn a. 67 wedi ei amnewid (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 28(a); O.S. 2018/34, ergl. 3
F2Geiriau yn a. 67(2)(a) wedi eu mewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 28(b); O.S. 2018/34, ergl. 3
F3Geiriau yn a. 67(2)(b) wedi eu mewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 28(c); O.S. 2018/34, ergl. 3
F4A. 67(2A) wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 28(d); O.S. 2018/34, ergl. 3
F5Gair yn a. 67(3) wedi ei amnewid (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 28(e); O.S. 2018/34, ergl. 3
F6Geiriau yn a. 67(4) wedi eu hamnewid (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 28(f); O.S. 2018/34, ergl. 3
F7A. 67(12) wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (anaw 3), aau. 45, 97(2); O.S. 2018/35, ergl. 3
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 67 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 67 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3