RHAN 3FFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU
PENNOD 7RHYDDHAD YN ACHOS ASESIAD GORMODOL NEU DRETH A ORDALWYD
Cyfoethogi anghyfiawn
66Cyfoethogi anghyfiawn: trefniadau talu’n ôl
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau i drefniadau talu’n ôl a wneir gan unrhyw berson gael eu diystyru at ddibenion adran 64 ac eithrio pan fo’r trefniadau—
(a)
yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth a gaiff ei rhagnodi gan y rheoliadau, a
(b)
wedi eu cefnogi gan unrhyw ymrwymiadau i gydymffurfio â darpariaethau’r trefniadau ag y bo’n ofynnol eu rhoi i ACC yn ôl y rheoliadau.
(2)
Yn yr adran hon, ystyr “trefniadau talu’n ôl” yw unrhyw drefniadau at ddibenion hawliad o dan adran 63 F1neu 63A—
(a)
a wneir gan unrhyw berson at ddiben sicrhau na chaiff y person ei gyfoethogi’n annheg yn sgil ad-dalu neu F2ollwng unrhyw swm yn unol â’r hawliad, a
(b)
sy’n darparu ar gyfer talu’n ôl i bersonau sydd at ddibenion ymarferol wedi ysgwyddo holl gost neu ran o gost y taliad gwreiddiol o’r swm hwnnw i ACC.
(3)
Mae’r ddarpariaeth a gaiff ei rhagnodi drwy reoliadau o dan yr adran hon ar gyfer ei chynnwys mewn trefniadau talu’n ôl yn cynnwys yn benodol—
(a)
darpariaeth sy’n gwneud taliad yn ôl o’r math a ddarperir ar ei gyfer yn y trefniadau yn ofynnol o fewn unrhyw gyfnod ar ôl yr ad-daliad y mae’n ymwneud ag ef a bennir yn y rheoliadau;
(b)
darpariaeth ar gyfer ad-dalu symiau i ACC pan na fo’r symiau hynny yn cael eu talu’n ôl yn unol â’r trefniadau;
(c)
darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol bod llog a delir gan ACC ar unrhyw swm a ad-delir ganddo i’w drin yn yr un ffordd â’r swm hwnnw at ddibenion unrhyw ofyniad o dan y trefniadau i dalu personau yn ôl neu i ad-dalu ACC;
(d)
darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw gofnodion sy’n ymwneud â dilyn y trefniadau a ddisgrifir yn y rheoliadau yn cael eu cadw a’u darparu i ACC.
(4)
Caiff rheoliadau o dan yr adran hon osod rhwymedigaethau ar bersonau a bennir yn y rheoliadau—
(a)
i wneud yr ad-daliadau i ACC y mae’n ofynnol iddynt eu gwneud yn unol ag unrhyw ddarpariaethau sydd wedi eu cynnwys mewn unrhyw drefniadau talu’n ôl yn rhinwedd is-adran (3)(b) neu (c);
(b)
i gydymffurfio ag unrhyw ofynion sydd wedi eu cynnwys mewn unrhyw drefniadau o’r fath yn rhinwedd is-adran (3)(d).
(5)
Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ynghylch ym mha ffurf a modd, a phryd, y mae ymrwymiadau i’w rhoi i ACC yn unol â’r rheoliadau a chaiff unrhyw ddarpariaeth o’r fath ganiatáu i ACC benderfynu ynghylch y materion hynny yn unol â’r rheoliadau.
(6)
Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ynghylch cosbau pan fo person yn torri rhwymedigaeth a osodir yn rhinwedd is-adran (4).
(7)
Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth yn benodol—
(a)
ynghylch yr amgylchiadau pan gyfyd rhwymedigaeth i gosb;
(b)
ynghylch symiau cosbau;
(c)
ar gyfer cosbau penodedig, cosbau dyddiol a chosbau a gyfrifir drwy gyfeirio at symiau’r ad-daliadau y byddai’r person wedi bod yn agored i’w gwneud i ACC pe byddai’r rhwymedigaeth wedi ei thorri;
(d)
ynghylch y weithdrefn ar gyfer asesu cosbau;
(e)
ynghylch adolygiadau o gosbau neu apelau yn eu herbyn;
(f)
ynghylch gorfodi cosbau.
(8)
Ond ni chaiff y rheoliadau greu troseddau.
(9)
Caiff rheoliadau a wneir yn rhinwedd is-adran (6) ddiwygio unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys y Ddeddf hon).
(10)
Nid yw rheoliadau a wneir felly yn gymwys i fethiant sy’n dechrau cyn y diwrnod y daw’r rheoliadau i rym.