Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

65Cyfoethogi anghyfiawn: darpariaeth bellachLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo swm a dalwyd ar ffurf treth ddatganoledig a fyddai (ar wahân i adran 64) i’w ad-dalu i unrhyw berson (“y trethdalwr”) neu [F1i’w ollwng], a

(b)pan fo holl gost neu ran o gost talu’r swm hwnnw i ACC wedi ei hysgwyddo, at ddibenion ymarferol, gan berson heblaw’r trethdalwr.

(2)Pan fo, mewn achos y mae’r adran hon yn gymwys iddo, golled neu niwed wedi dod i ran y trethdalwr, neu y gallai colled neu niwed ddod i’w ran, o ganlyniad i ragdybiaethau anghywir a wnaed yn achos y trethdalwr am y ffordd y mae unrhyw ddarpariaethau yn ymwneud â threth ddatganoledig yn gweithredu, mae’r golled honno i’w diystyru neu’r niwed hwnnw i’w ddiystyru, ac eithrio i raddau’r swm sydd wedi ei feintioli, wrth wneud unrhyw ddyfarniad—

(a)o ba un a fyddai neu i ba raddau y byddai ad-dalu swm i’r trethdalwr neu [F2ollwng y swm] yn cyfoethogi’r trethdalwr, neu

(b)o ba un a fyddai neu i ba raddau y byddai unrhyw gyfoethogiad o ran y trethdalwr yn annheg.

(3)Yn is-adran (2) ystyr “y swm sydd wedi ei feintioli” yw’r swm (os o gwbl) y mae’r trethdalwr yn dangos ei fod y swm a fyddai’n digolledu’r trethdalwr yn briodol am golled neu niwed y dengys y trethdalwr iddo ddod i ran y trethdalwr yn sgil gwneud y rhagdybiaethau anghywir.

(4)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (2) at ddarpariaethau sy’n ymwneud â threth ddatganoledig yn gyfeiriad at unrhyw ddarpariaethau—

(a)mewn unrhyw ddeddfiad neu ddeddfwriaeth yr UE (boed mewn grym o hyd ai peidio) sy’n berthnasol i’r dreth ddatganoledig neu i unrhyw fater sy’n gysylltiedig â hi, neu

(b)mewn unrhyw hysbysiad a gyhoeddir gan ACC o dan neu at ddibenion unrhyw ddeddfiad o’r fath.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 65 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 65 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3