RHAN 3FFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU

PENNOD 7RHYDDHAD YN ACHOS ASESIAD GORMODOL NEU DRETH A ORDALWYD

Treth a ordalwyd etc.

63Hawlio F1rhyddhad rhag treth a ordalwyd etc.

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)

pan fo person wedi talu swm o dreth F2a gesglir gan ACC ond yn credu nad oedd y dreth F2a gesglir gan ACC i’w chodi arno, neu

(b)

pan aseswyd bod swm o dreth F2a gesglir gan ACC i’w godi ar berson, neu pan fo dyfarniad F3ACC wedi ei wneud bod swm o dreth F2a gesglir gan ACC i’w godi ar berson, ond bod y person yn credu na ddylid codi’r dreth F2a gesglir gan ACC arno.

(2)

Caiff y person wneud hawliad i ACC ad-dalu’r swm neu F4ollwng y swm.

(3)

Pan fo’r adran hon yn gymwys, nid yw ACC yn rhwym i roi F5rhyddhad ac eithrio fel y darperir yn y Rhan hon neu drwy neu o dan unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau eraill F6Deddfau Trethi Cymru.

(4)

At ddibenion yr adran hon ac adrannau F763A i 81, trinnir swm a delir gan un person ar ran person arall fel swm a dalwyd gan y person arall.