RHAN 3FFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU

PENNOD 7YMWARED YN ACHOS ASESIAD GORMODOL NEU DRETH A ORDALWYD

Treth a ordalwyd etc.

63Hawlio ymwared rhag treth a ordalwyd etc.

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)

pan fo person wedi talu swm o dreth ddatganoledig ond yn credu nad oedd y dreth ddatganoledig i’w chodi arno, neu

(b)

pan aseswyd bod swm o dreth ddatganoledig i’w godi ar berson, neu pan fo dyfarniad wedi ei wneud bod swm o dreth ddatganoledig i’w godi ar berson, ond bod y person yn credu na ddylid codi’r dreth ddatganoledig arno.

(2)

Caiff y person wneud hawliad i ACC ad-dalu’r swm neu ei ryddhau ohono.

(3)

Pan fo’r adran hon yn gymwys, nid yw ACC yn rhwym i roi ymwared ac eithrio fel y darperir yn y Rhan hon neu drwy neu o dan unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau eraill y Ddeddf hon.

(4)

At ddibenion yr adran hon ac adrannau 64 i 81, trinnir swm a delir gan un person ar ran person arall fel swm a dalwyd gan y person arall.