xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CFFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU

PENNOD 7LL+C[F1RHYDDHAD] YN ACHOS ASESIAD GORMODOL NEU DRETH A ORDALWYD

Treth a ordalwyd etc.LL+C

63Hawlio [F2rhyddhad] rhag treth a ordalwyd etc.LL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo person wedi talu swm o dreth ddatganoledig ond yn credu nad oedd y dreth ddatganoledig i’w chodi arno, neu

(b)pan aseswyd bod swm o dreth ddatganoledig i’w godi ar berson, neu pan fo dyfarniad [F3ACC] wedi ei wneud bod swm o dreth ddatganoledig i’w godi ar berson, ond bod y person yn credu na ddylid codi’r dreth ddatganoledig arno.

(2)Caiff y person wneud hawliad i ACC ad-dalu’r swm neu [F4ollwng y swm].

(3)Pan fo’r adran hon yn gymwys, nid yw ACC yn rhwym i roi [F5rhyddhad] ac eithrio fel y darperir yn y Rhan hon neu drwy neu o dan unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau eraill [F6Deddfau Trethi Cymru].

(4)At ddibenion yr adran hon ac adrannau [F763A] i 81, trinnir swm a delir gan un person ar ran person arall fel swm a dalwyd gan y person arall.