RHAN 3FFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU
PENNOD 6ASESIADAU ACC
Gwneud asesiadau ACC
59Terfynau amser ar gyfer asesiadau ACC
(1)
Ni chaniateir gwneud asesiad ACC dros 4 blynedd ar ôl y dyddiad perthnasol F1mewn unrhyw achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 54, 55 neu 55A(a) neu (b) .
(2)
Ond caniateir gwneud asesiad ACC o drethdalwr hyd at 6 mlynedd ar ôl y dyddiad perthnasol mewn unrhyw achos sy’n cynnwys sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 F2, 55 neu 55A(a) neu (b) sydd wedi ei pheri’n ddiofal gan y trethdalwr neu gan berson cysylltiedig.
(3)
A chaniateir gwneud asesiad ACC o drethdalwr hyd at 20 mlynedd ar ôl y dyddiad perthnasol mewn unrhyw achos sy’n cynnwys sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 F3, 55 neu 55A(a) neu (b) sydd wedi ei pheri’n fwriadol gan y trethdalwr neu gan berson cysylltiedig.
(4)
Nid yw asesiad ACC o dan adran 55 oddi allan i’r cyfnod os caiff ei wneud o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y gwnaed yr ad-daliad o dan sylw.
F4(4A)
Ni chaniateir gwneud asesiad ACC mewn achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 55A(c)—
(a)
os yw ACC wedi dyroddi hysbysiad i’r trethdalwr sy’n gwneud talu’r swm o dan sylw yn ofynnol, ar ôl y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod erbyn pryd yr oedd y taliad yn ofynnol, a
(b)
fel arall, ar ôl y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth ACC yn ymwybodol ei bod yn ofynnol i’r trethdalwr dalu’r swm o dan sylw.
(5)
Os yw’r trethdalwr wedi marw—
(a)
rhaid gwneud unrhyw asesiad ACC o’r cynrychiolwyr personol cyn diwedd y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â dyddiad y farwolaeth, a
(b)
ni chaniateir gwneud asesiad ACC mewn perthynas â dyddiad perthnasol dros 6 mlynedd cyn y dyddiad hwnnw.
(6)
Ni ellir gwrthwynebu gwneud asesiad ACC ar y sail fod y terfyn amser ar gyfer ei wneud wedi mynd heibio ond fel rhan o adolygiad o’r asesiad neu apêl yn ei erbyn.
(7)
Yn yr adran hon—
ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) F5, mewn perthynas ag asesiad ACC mewn achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 neu 55, yw—
(a)
F6os na ddychwelwyd ffurflen dreth, y dyddiad erbyn pryd y mae ACC yn credu iddi fod yn ofynnol dychwelyd ffurflen dreth,
(b)
os dychwelwyd F7ffurflen dreth ar ôl y dyddiad ffeilio, y diwrnod y dychwelwyd y ffurflen dreth, neu
(c)
fel arall, y dyddiad ffeilio;
F8ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”), mewn perthynas ag asesiad ACC mewn achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 55A(a) neu (b), yw—
(a)
pan fo’r credyd treth o dan sylw wedi ei hawlio mewn ffurflen dreth a ddychwelwyd ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, y dyddiad ffeilio;
(b)
pan fo’r credyd treth o dan sylw wedi ei hawlio mewn ffurflen dreth a ddychwelwyd ar ôl y dyddiad ffeilio, y dyddiad y dychwelwyd y ffurflen dreth;
(c)
pan fo’r credyd treth o dan sylw wedi ei hawlio drwy unrhyw ddull arall, y diwrnod y gwnaed yr hawliad.
ystyr “person cysylltiedig” (“related person”), mewn perthynas â’r trethdalwr, yw—
(a)
person sy’n gweithredu ar ran y trethdalwr, neu
(b)
person a oedd yn bartner yn yr un bartneriaeth â’r trethdalwr.