59Terfynau amser ar gyfer asesiadau ACCLL+C
(1)Ni chaniateir gwneud asesiad ACC dros 4 blynedd ar ôl y dyddiad perthnasol [F1mewn unrhyw achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 54, 55 neu 55A(a) neu (b)] .
(2)Ond caniateir gwneud asesiad ACC o drethdalwr hyd at 6 mlynedd ar ôl y dyddiad perthnasol mewn unrhyw achos sy’n cynnwys sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 [F2, 55 neu 55A(a) neu (b)] sydd wedi ei pheri’n ddiofal gan y trethdalwr neu gan berson cysylltiedig.
(3)A chaniateir gwneud asesiad ACC o drethdalwr hyd at 20 mlynedd ar ôl y dyddiad perthnasol mewn unrhyw achos sy’n cynnwys sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 [F3, 55 neu 55A(a) neu (b)] sydd wedi ei pheri’n fwriadol gan y trethdalwr neu gan berson cysylltiedig.
(4)Nid yw asesiad ACC o dan adran 55 oddi allan i’r cyfnod os caiff ei wneud o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y gwnaed yr ad-daliad o dan sylw.
[F4(4A)Ni chaniateir gwneud asesiad ACC mewn achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 55A(c)—
(a)os yw ACC wedi dyroddi hysbysiad i’r trethdalwr sy’n gwneud talu’r swm o dan sylw yn ofynnol, ar ôl y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod erbyn pryd yr oedd y taliad yn ofynnol, a
(b)fel arall, ar ôl y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth ACC yn ymwybodol ei bod yn ofynnol i’r trethdalwr dalu’r swm o dan sylw.]
(5)Os yw’r trethdalwr wedi marw—
(a)rhaid gwneud unrhyw asesiad ACC o’r cynrychiolwyr personol cyn diwedd y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â dyddiad y farwolaeth, a
(b)ni chaniateir gwneud asesiad ACC mewn perthynas â dyddiad perthnasol dros 6 mlynedd cyn y dyddiad hwnnw.
(6)Ni ellir gwrthwynebu gwneud asesiad ACC ar y sail fod y terfyn amser ar gyfer ei wneud wedi mynd heibio ond fel rhan o adolygiad o’r asesiad neu apêl yn ei erbyn.
(7)Yn yr adran hon—
ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) [F5, mewn perthynas ag asesiad ACC mewn achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 neu 55,] yw—
[F8ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”), mewn perthynas ag asesiad ACC mewn achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 55A(a) neu (b), yw—
(a)pan fo’r credyd treth o dan sylw wedi ei hawlio mewn ffurflen dreth a ddychwelwyd ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, y dyddiad ffeilio;
(b)pan fo’r credyd treth o dan sylw wedi ei hawlio mewn ffurflen dreth a ddychwelwyd ar ôl y dyddiad ffeilio, y dyddiad y dychwelwyd y ffurflen dreth;
(c)pan fo’r credyd treth o dan sylw wedi ei hawlio drwy unrhyw ddull arall, y diwrnod y gwnaed yr hawliad.]
ystyr “person cysylltiedig” (“related person”), mewn perthynas â’r trethdalwr, yw—
(a)person sy’n gweithredu ar ran y trethdalwr, neu
(b)person a oedd yn bartner yn yr un bartneriaeth â’r trethdalwr.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 59(1) wedi eu mewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 16(2)
F2Geiriau yn a. 59(2) wedi eu hamnewid (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 16(3)
F3Geiriau yn a. 59(3) wedi eu hamnewid (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 16(4)
F4A. 59(4A) wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 16(5)
F5Geiriau yn a. 59(7) wedi eu mewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 16(6)(a)
F6Geiriau yn a. 59(7) wedi eu mewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 19(a); O.S. 2018/34, ergl. 3
F7Geiriau yn a. 59(7) wedi eu hamnewid (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 19(b); O.S. 2018/34, ergl. 3
F8Geiriau yn a. 59(7) wedi eu mewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 16(6)(b)
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1A. 59 cymhwyswyd (gydag addasiadau) (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 7 para. 43(3); O.S. 2018/34, ergl. 3
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 59 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 59 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3