RHAN 3FFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU

PENNOD 6ASESIADAU ACC

Gwneud asesiadau ACC

58Amodau ar gyfer gwneud asesiadau ACC

(1)

O ran asesiad ACC

(a)

caniateir ei wneud yn y F1pedwar achos a bennir yn is-adrannau F2(2), (3) F3, (3A) a (3B) yn unig, a

(b)

ni chaniateir ei wneud yn yr amgylchiadau a bennir yn is-adran (4).

(2)

Yr achos cyntaf yw pan fo’r sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 neu 55 wedi ei pheri’n ddiofal neu’n fwriadol gan—

(a)

y trethdalwr,

(b)

person sy’n gweithredu ar ran y trethdalwr, neu

(c)

person a oedd yn bartner yn yr un bartneriaeth â’r trethdalwr.

F4(3)

Yr ail achos yw—

(a)

pan fo ffurflen dreth wedi ei dychwelyd,

(b)

pan fo hawl ACC i ddyroddi hysbysiad ymholiad i’r ffurflen dreth wedi dod i ben, neu pan fo wedi cwblhau ei ymholiadau iddi, ac

(c)

ar yr adeg y daeth yr hawl honno ar ran ACC i ben neu y cwblhaodd yr ymholiadau hynny, na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol iddo fod yn ymwybodol o’r sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 na 55 ar sail gwybodaeth a ddarparwyd i ACC cyn yr adeg honno.

F5(3A)

Y trydydd achos yw pan fo ACC yn gwneud addasiad o dan y rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi (gweler Rhan 3A, ac adran 81E yn benodol).

F6(3B)

Y pedwerydd achos yw pan fo ACC wedi dod i’r casgliad fod y sefyllfa a ddisgrifir yn adran 55A wedi digwydd.

(4)

Ni chaniateir gwneud asesiad ACC F7yn yr achos cyntaf na’r ail achos

(a)

os gellir priodoli’r sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 neu 55 i gamgymeriad F8mewn ffurflen dreth o ran ar ba sail y dylid bod wedi cyfrifo’r rhwymedigaeth i’r dreth ddatganoledig, a

(b)

os gwnaed y camgymeriad oherwydd bod y ffurflen dreth wedi ei dychwelyd ar y sail a oedd yn bodoli ar yr adeg y’i dychwelwyd, neu yn unol â’r arfer a oedd yn bodoli’n gyffredinol bryd hynny.