RHAN 3FFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU

PENNOD 6ASESIADAU ACC

Asesu treth a gollir neu ad-daliad gormodol

F155A.Asesiad mewn perthynas â chredyd treth

Os yw ACC yn dod i’r casgliad—

(a)

mewn perthynas â swm o gredyd treth sydd wedi ei osod yn erbyn swm o dreth y byddai fel arall wedi bod yn ofynnol i berson ei dalu—

(i)

na ddylid fod wedi ei osod yn erbyn y swm o dreth, neu

(ii)

ei fod wedi mynd yn ormodol,

(b)

mewn perthynas â swm a dalwyd i berson mewn cysylltiad â chredyd treth—

(i)

na ddylid fod wedi ei dalu, neu

(ii)

ei fod wedi mynd yn ormodol, neu

(c)

nad yw swm y mae’n ofynnol i berson ei dalu i ACC mewn cysylltiad â chredyd treth wedi ei dalu,

caiff ACC wneud asesiad o’r swm y dylid bod wedi ei dalu i ACC, ym marn ACC, er mwyn unioni’r mater.