RHAN 3FFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU
PENNOD 5DYFARNIADAU ACC
52Dyfarniad o’r dreth sydd i’w chodi os na ddychwelir ffurflen dreth
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys—
(a)
pan fo gan ACC reswm i gredu bod treth F1a gesglir gan ACC i’w chodi ar berson,
(b)
pan na fo’r person wedi dychwelyd ffurflen dreth mewn perthynas â’r dreth F1a gesglir gan ACC sydd i’w chodi, ac
(c)
pan fo’r dyddiad ffeilio perthnasol wedi mynd heibio.
(2)
Ystyr “y dyddiad ffeilio perthnasol” yw’r dyddiad erbyn pryd y mae ACC yn credu yr oedd yn ofynnol dychwelyd ffurflen dreth.
(3)
Caiff ACC wneud dyfarniad (“dyfarniad ACC”) ynghylch swm y dreth F1a gesglir gan ACC sydd i’w chodi ar y person, ym marn ACC.
(4)
Rhaid dyroddi hysbysiad am y dyfarniad i’r person.
(5)
(6)
Ni chaniateir gwneud dyfarniad ACC dros 4 blynedd ar ôl y dyddiad perthnasol.
(7)
Y dyddiad perthnasol yw—
(a)
y dyddiad ffeilio perthnasol, neu
(b)
unrhyw ddyddiad arall y caiff Gweinidogion Cymru ei ragnodi drwy reoliadau.