Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

51Cyfarwyddyd i gwblhau ymholiadLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff y person a ddychwelodd y ffurflen dreth wneud cais i’r tribiwnlys am gyfarwyddyd bod hysbysiad cau i’w ddyroddi o fewn cyfnod penodedig.

(2)Rhaid i’r tribiwnlys roi cyfarwyddyd oni bai ei fod yn fodlon fod gan ACC seiliau rhesymol dros beidio â rhoi hysbysiad cau o fewn y cyfnod hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 51 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 51 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3