RHAN 3FFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU

PENNOD 4YMHOLIADAU ACC

Cwblhau ymholiad

50Cwblhau ymholiad

(1)

Mae ymholiad wedi ei gwblhau pan fydd ACC yn dyroddi hysbysiad (“hysbysiad cau”) i’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth yn datgan—

(a)

bod yr ymholiad wedi ei gwblhau, a

(b)

casgliadau’r ymholiad.

(2)

Rhaid i hysbysiad cau naill ai—

(a)

datgan nad yw’n ofynnol diwygio’r ffurflen dreth ym marn ACC, neu

(b)

gwneud y diwygiadau i’r ffurflen dreth sy’n ofynnol er mwyn rhoi effaith i gasgliadau ACC.

(3)

Pan ddyroddir hysbysiad cau sy’n gwneud diwygiadau i ffurflen dreth, ni chaiff y person a ddychwelodd y ffurflen dreth ei diwygio mwyach o dan adran 41.

(4)

Rhaid i’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth dalu swm, neu swm ychwanegol, o dreth ddatganoledig F1sy’n daladwy o ganlyniad i ddiwygiad a wnaed gan hysbysiad cau cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad.